UPDATE . . 23.01.08 . . . UPDATE . . 23.01.08 . . UPDATE . . 23.01.08. . UPDATE . . . 23.01.08




Ein LLywydd /Our President : Mr Dai Jones, Llanilar
Bu i Colin a'r Cantorion ymddangos ar raglen Cefn Gwlad Dai Jones Llanilar, ar S4C, ddydd LLun, Rhagfyr 24ain, 2007 am 2025, ac hefyd bu i Vivian Edwards, tenor cyntaf o Nercwys ymddangos ar raglen Dai ar nos Lun, Ionawr 21, 2008. Bu i Colin ymddangos yn y rhaglen hon hefyd gan fod Vivian yn cael gwersi canu ganddo yn ei gartref yn Rhosllannerchrugog. Mae'n amlwg fod y gwersi wedi cael gafael ar Viv gan fod ei ganu yn wirioneddol wych. Llongyfarchiadau Viv.
Colin and the Cantorion appeared on Dai Jones' Cefn Gwlad programme on S4C Monday Evening, December 24th, 2007 at 2025. Vivian Edwards from Nercwys also appeared on a programme dedicated to his farming life broadcasted on Monday, 21st January, 2008. Our Musical Director also played a cameo role as Vivian was filmed rehearsing at Colin's home in Rhosllannerchrugog. Congratulations Viv, your singing was wonderful.
====================================================
YMARFERIADAU NESA' : NEXT REHEARSALS
Dydd Sul / Sunday 17.02.2008 @ 1400
CROESO I BAWB - ALL WELCOME
Ystafell yr Eglwys Santes Fair, Betws y Coed
St Mary's Church Room, Betws y Coed
(Ymarfer/Rehearsal 03.02.07 wedi ei ohurio/cancelled)
========================================================
CINIO BLYNYDDOL Y CANTORION
Dydd Sadwrn, Ionawr 12, 2007, Deganwy Quays, Deganwy.
On Saturday, January 12th, our Annual Dinner was held at the Deganwy Quays Hotel. Many friends and long-time supporters of the choir were present to witness the inauguration of Mr Rhys Jones, of Rhyl, as Vice-President. Mr Jones is a noted composer, choirmaster, broadcaster and raconteur. He and Mrs Jones were warmly welcomed by Colin Jones, and in his subsequent speech Mr Jones did not disappoint, and had his audience "rolling in the aisles".
Acting Chairman Geraint Anwyl presented Mrs Olwen Jones with a bouquet of flowers in appreciation of her hard work in organising the dinner. Later in the evening some members of the choir entertained with the aid of a karaoke machine, delivering such favourites as "My Way" and "You Raise Me Up" with gusto.
Ar nos Sadwrn, Ionawr 12ed, cawsom ein Cinio Blynyddol yn ngwesty'r Deganwy Quays. Roedd amryw o ffrindiau a chefnogwyr y côr yno i dystio i urddiad Mr Rhys Jones, Rhyl, fel ein Is-lywydd. Mae Mr Jones yn gyfansoddwr, arweinydd corawl, darlledwr a siaradwr cyhoeddus adnabyddus iawn. Rhoddodd Colin Jones groeso twymgalon iddo a Mrs Jones. Yn ei annerchiad cawsom flas ar ddawn unigryw Rhys Jones fel siaradwr.
Cyflwynodd y Cadeirydd, Geraint Anwyl, dusw o flodau i Mrs Olwen Jones mewn gwerthfawrogiad o'i gwaith yn trefnu'r cinio. Yn ddiweddarach dangosodd rhai aelodau o'r côr mor ddawnus ydynt pan fo cymorth y peiriant "karaoke" wrth law. Cawsom amryw o'r ffefrynau, fel "My Way" a "You raise me up" gydag arddeliad.
===============================================================
The first rehearsal of the year was excellent and included two new pieces being learnt for the first time. Learning Henry Geehl's arrangement of “Rhown Glod i Dduw” proved as popular as Doris Arnold's “Love Could I Only Tell Thee” and the Cantorion are eagerly anticipating the all day rehearsal on the 20th January to put them ‘in the bag'.
Colin has given an indication that the Cantorion will also be learning the classic “Y Pysgodwyr” in the near future following a request by Mr Huw Roberts, second tenor.
=====================================
AELOD NEWYDD/NEW MEMBER
Mae Rhys Jones o Fenllech, Ynys Môn wedi ymuno a'r ail denoriaid ar 06.01.08
Rhys Jones from Benllech, Ynys Môn has joined the ranks of the second tenors on 06.01.08
=========================================
TOURS
Mae trafodaethau ynglyn ag ymweliadau i Ffrainc a Rwsia yn parhau
Discussions regarding trips to France and Russia are ongoing.
==========================================
Ennillwyr Raffl Ymarfer / Raffle Winners
Gwil Rhos 06.01.08, Merfyn Owen 20.01.08
============================================

CLICIWCH AR Y LINCS ISOD I GLYWED Y COR
CLICK ON THE LINKS BELOW TO HEAR THE CHOIR
The Lord's Prayer
Bring Him Home
John Puw - "Arafa Don"
Mel Jones - "Going Home"
Trio - "Danny Boy"
=====================================================================
CYNGERDD DOLGELLAU CONCERT

David Kempster, Stacey Wheeler a Gwyn Hughes Jones
Bu perfformiad caboledig o'r Nessun Dorma gan Giacomo Puccini yn gyfrwng addas i gloi cyngerdd arbennig o lwyddiannus yn Ysgol y Gader, Dolgellau nos Sadwrn, 16 Rhagfyr. Ac yn goron ar y cyfan fe gododd y gynulleidfa niferus fel un gwr i gymeradwyo noson dra chofiadwy.
Yr oedd y Cantorion yn rhannu llwyfan gyda'r soprano nodedig Stacey Wheeler a'r baritôn dihafal o'r Waen, David Kempster. Trefnwyd y cyngerdd gan Trebor Evans a'i deulu i godi arian tuag at Ysgol Gynradd y Brithdir.
Cafodd y gynulleidfa eiddgar a gwerthfawrogol wledd yn y dewisiad o ddarnau corau meibion traddodiadol ac o ddatganiadau rhagorol gan ddau unawdydd o'r radd flaenaf. Cydiwyd y gwead hyfryd o eitemau a chaneuon wrth ei gilydd gan hiwmor ein Dai ni ein hunain,- Dai Jones, Llanilar. Yn ôl ei arfer yr oedd Dai yn hynod o gymeradwy.
A'i lygaid fel arfer ar y newydd, fe benderfynodd Colin yn erbyn rhoi cychwyn i'r noson gydag arwydd-dôn y Cantorion, Y Ddau Wladgarwr. Yn lle hynny dechreuwyd y cyngerdd trwy hymian Deep Harmony a mynd ymlaen at Y Greadigaeth gan Willy Richter, gyda goleuadau'r Neuadd ar ei gwannaf hyd at ran dyngedfennol y datganiad. Yn amlwg bu'r cysyniad yn llwyddiannus gan osod cywair perffaith i weddill y noson.
Yr oedd y Côr wrth gwrs dan gyfarwyddyd Colin, a gafodd newid bach o'i gyfeilio arferol i'r unawdwyr. Cyfeiliodd Eirian Owen, Cyfarwyddes Cerdd Côr Godre'r Aran , yn hyfryd i David a Stacey trwy gydol y noson.
Wedi i'r cyngerdd ddod i'w derfyn gorchestol fe deithiodd llawer o'r aelodau, yr unawdwyr, y cyfeillion a'r teuluoedd yr ychydig ffordd i westy'r Fron Olau am noson hwyliog o ganu a chyd fwynhau.
LLYTHYR O DDIOLCH / A LETTER OF THANKS
"I sylw Colin Jones, Olwen Jones a'r Côr i gyd. Hoffwn ddiolch ar ran yr ysgol i chi gyd am eich cyfraniad hael iawn i noson arbennig o lwyddiannus yn Nolgellau ar y 8/12/07 . Mae nifer o drigolion y dref a'r ardal yn dal i siarad am y cyngerdd gyda fi yn nodi cymaint roeddynt wedi mwynhau y noson. Diolch o waelod calon am eich cefnogaeth i'r ysgol ac yn arbennig i Mr Colin Jones a Olwen Jones, eich cyfeilyddes am eu cyfraniad mawr i lwyddiant y noson. Llwyddwyd i gasglu £3000, fydd yn hwb mawr i ni er mwyn adnewyddu cyfrifiaduron yr Ysgol. Llawer iawn o ddiolch i chi gyd a phob dymuniad da i chi fel Côr yn 2008."
Yn gywir,
Menna (ar ran llywodraethwyr, plant, rhieni a staff yr ysgol)
A polished performance of Giacomo Puccini's Nessun Dorma helped draw to a close an exceptional concert at Ysgol y Gader, Dolgellau on Saturday, 16 th December. A spontaneous standing ovation from a packed audience capped a truly memorable evening.
The Cantorion shared the platform with the outstanding soprano, Stacey Wheeler (Winner at the National Eisteddfod 2007) and the first-rate baritone from Chirk , David Kempster (Opera Cenedlaethol Cymru / Welsh National Opera) The concert was organised by Trebor Evans and family to raise funds for Ysgol Gynradd Brithdir .
An appreciative and receptive audience were treated to a fine selection of traditional male choral singing and wonderful renditions from the two entertaining soloists. The various items and songs were interwoven with anecdotes and humour from our very own, Dai Jones, Llanilar . Dai was naturally outstanding.
Always looking to try something new, Colin decided against kicking off the evening with the Cantorion's signature tune, “Y Ddau Wladgarwr”. Alternatively, he began the concert with a capella humming of Deep Harmony leading straight into Willy Richter's “The Creation” with the lights in the hall dimmed. The concept was obviously successful and set the tone for the evening.
The choir was of course under the direction of Colin who incidentally had a deserved night off from accompanying the soloists. Eirian Owen, Musical Director of Côr Godre'r Aran accompanied delightfully for David and Stacey throughout the evening.
After the concert drew to its emphatic close, many choir members, soloists, friends and families, and audience members drove the short distance to the Fron Oleu Hotel for a first-rate evening of song and Hwyl!
--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
NOSON LAWEN GLANTRAETH
Ddydd Gwener, 3 Tachwedd, yng Ngwesty Glantraeth, Ynys Môn, gwnaeth tua 25 o'r Cantorion gyfraniad hynod o adloniadol i noswaith a fu'n gyfrwng i godi swm sylweddol o arian i'r elusen Motor Neuron. Trefnwyd y noson gan Meredydd Jones, sy'n frawd i ‘r ail fas Mel Jones, ac yn addas iawn fe gychwynnodd Mel y noson gyda'i ddatganiad poblogaidd o "Going Home".
Yna cafodd y gynulleidfa hael eu gwerthfawrogiad, wledd o berfformiadau gan aelodau eraill o'r côr cyn i gyflwyniad y bechgyn ddod i ben gyda'u harwydd-donau, Y Ddau Wladgarwr emyn dôn boblogaidd, Gwahoddiad.
Cododd yr arwerthiant dros £1,000, gyda'r elw o werthiant tocynnau a chyfraniadau personol, ynghyd â chyfraniad Banc y Nat West yn codi'r swm terfynol i dros £3,000. Mae'r Cantorion yn wirioneddol falch o fod wedi cyfrannu at achos mor deilwng.
Yn olaf, rhaid cydnabod y modd celfydd y tywysodd ein cyfeilydd Olwen Jones y gweithrediadau yn absenoldeb ein Cyfarwyddwr Cerdd, Colin Jones.
Around 25 of the Cantorion made a highly entertaining contribution to an evening that raised a substantial amount of money towards the Motor Neuron Charity at Gwesty Glantraeth, Ynys Môn on Friday, November 30th. The evening was arranged by Meredydd Jones, brother of Mel Jones 1st Bass and it was appropriate that Mel kicked of the evening with his popular rendition of Going Home
A generous and appreciative audience were then treated to an evening of quality performances from others within the choir before the presentation culminated with the 25 strong party presenting our signature tune, Y Ddau Wladgarwr and the populat hymn tune, Gwahoddiad.
The auction itslef raised over £1000.00 whilst proceeds from ticket sales, private donations and a contribution from Nat West Bank enhanced the final balance to over £3000.00. The Cantorion are proud to have contributed to such a worthy cause.
Finally, recognition must be given to the manner in which our accompanist, Olwen Jones skilfully guided the evening in the absense of Colin, our Musical Director.
==========================================================================
"Nessun Dorma"
Ar hyn o bryd, mae'r Cantorion a Colin yn brysur yn gweithio ar y darn newydd cyffroes, "Nessun Dorma", yr aria anfarwol o opera Giacomo Puccini, Turandot. Mae hon wedi ei threfnu i gôr meibion gan Alan Simmons. Yn yr opera, Caldaf sydd yn canu'r darn.
The choir is currently learning Alan Simmons' arrangement of the famous aria, 'Nessun Dorma' ('None Shall Sleep'). It is an aria from the final act of Giacomo Puccini's opera Turandot, and is one of the best known tenor arias. It is sung by Calaf, Il principe ignoto (The unknown prince).
-----------------------------------------------------
RHAGLEN Y CANTORION - CHOIR PROGRAMME
Dylid pawb a diddordeb yn Rhaglen Cyngherddau y Cantorion dros 2007 a phellach ymweld a'r dudalen “Rhaglen” ar y wefan hon. Cliciwch ar y mis priodol er mwyn i'r manylion ymddangos. Fe fydd rhyw newidiadau yn cael ei arddangos yma ar y dudalen hon.
Viewers interested in the choir's 2007 programme of concerts can find the necessary details on the web page of this site entitled Programme. Simply click on the month of interest and drop down details of the choir's concerts and practices for the particular month will be displayed. Any changes and further details will be described in the 'Latest News ' updates.